Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 24 Medi 2024

Amser: 09.01 - 09.21
 


Remote/ private

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Heledd Fychan AS

Jane Hutt AS

Darren Millar AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

Jane Dodds AS

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd

Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Dirprwy Lywydd yr Aelodau i'r cyfarfod a chadeirio eitemau 1-3. Yn dilyn cwblhau eitem 3, ymunodd y Llywydd â'r cyfarfod a chymryd yr awenau fel cadeirydd.

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynigion i newid aelodau Llafur ar nifer o bwyllgorau i'w hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth. Felly, cytunwyd ar y newid a ganlyn i agenda dydd Mawrth:

 

·         Cynigion i Ethol Aelodau i Bwyllgorau (5 munud)

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.35pm

 

Dydd Mercher

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl y ddadl fer.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm

 

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 1 Hydref 2024

 

·         Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Llifogydd – paratoi ar gyfer y gaeaf (45 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Trochi'r Gymraeg Addysg cyfrwng Cymraeg drwy drochi hwyr (45 munud)

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

 

Cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 16 Hydref 2024 –

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Gweithredu Diwygiadau Addysg - Adroddiad Interim (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor, pe bai'r Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.79 i dynnu Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yn ôl yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma, y byddai cyfarfod Pwyllgor y Senedd Gyfan a drefnwyd ar gyfer dydd Mawrth 1 Hydref yn cael ei ganslo.

 

 

</AI6>

<AI7>

3.4   Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl 

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu:

 

2 Hydref

 

Delyth Jewell

NNDM8566 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn gresynu bod poen corfforol ac emosiynol menywod yn cael ei normaleiddio yn eu gofal iechyd, yn ogystal â'r disgwyliad bod poen yn agwedd anffodus ar iechyd menywod ond yn un na ellir ei hosgoi. 

2. Yn credu, drwy ymgynghori â gynaecolegwyr, bydwragedd a grwpiau iechyd menywod, y dylai gweithwyr iechyd proffesiynol anelu at leihau sefyllfaoedd lle y mae poen yn ddisgwyliedig ac yn cael ei dderbyn fel rhywbeth normal yng ngofal iechyd y GIG. 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

a) cryfhau'r disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau'r GIG yn y Datganiad Ansawdd ar gyfer iechyd menywod a merched; 

b) sefydlu gofyniad cyfreithiol i ddarparwyr gofal iechyd gasglu adborth yn rheolaidd gan gleifion benywaidd am eu profiadau a'u bodlonrwydd â'r gofal a gânt, yn enwedig mewn perthynas ag apwyntiadau gynaecolegol, bydwreigiaeth a gwasanaethau ôl-enedigol, iechyd meddwl amenedigol a menopos; ac 

c) cyflwyno rhwymedigaethau statudol ar gyfer datblygu, cydgysylltu a gweithredu'r Cynllun Iechyd Menywod a ddatblygwyd gan GIG Cymru y mae gynaecolegwyr, bydwragedd a grwpiau iechyd menywod wedi ymgynghori arno, a ddylai gynnwys mesurau i fynd i'r afael â normaleiddio poen ym maes gofal iechyd menywod, ac atal y normaleiddio hwnnw. 

 

23 Hydref

 

Julie Morgan

NNDM8656 

Cynnig bod y Senedd: 

1.  Yn nodi nad yw'r cyfrifoldeb dros ddeddfu i ganiatáu cymorth i farw wedi ei ddatganoli i Gymru, gan ei fod ar hyn o bryd yn fater a gaiff ei lywodraethu gan gyfraith droseddol.  

2. Yn nodi, pe bai cymorth i farw yn cael ei gyfreithloni, ac o ystyried ei chyfrifoldeb dros iechyd a gofal cymdeithasol, y byddai angen i Lywodraeth Cymru gael dealltwriaeth fanwl o unrhyw gynigion. 

3. Yn credu y dylai oedolyn yn ei lawn bwyll, y mae ganddo gyflwr corfforol annioddefadwy na ellir ei wella ac y mae wedi nodi ei ddymuniad clir a phendant i farw, gael yr opsiwn o gymorth i farw, yn ddarostyngedig i fesurau diogelu cadarn. 

4. Yn nodi bod ymchwiliad diweddar gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol San Steffan wedi canfod cysylltiad rhwng cyflwyno cymorth i farw a gwelliant o ran gofal lliniarol mewn sawl awdurdodaeth. 

5. Yn nodi bod y Swyddfa Economeg Iechyd wedi canfod, hyd yn oed pe baent yn cael y feddygaeth liniarol orau, y byddai o leiaf 5,000 o bobl y flwyddyn yng Nghymru a Lloegr yn marw heb unrhyw ffordd effeithiol o leddfu eu poen yn eu mis olaf. 

6. Yn nodi bod agweddau'r cyhoedd at roi cymorth i farw wedi newid, gyda hyd at 88% o'r cyhoedd yn ffafrio newid y gyfraith. 

7. O ran pobl o'r DU sy'n dioddef, bod mwy nag un yr wythnos bellach yn dewis dod â’u bywyd i ben yn un o ganolfannau diwedd oes y Swistir, a bod llawer yn rhagor a fyddai'n dewis gwneud yr un peth ond sy’n methu â fforddio'r costau uchel perthnasol, sy’n aml ymhell dros £10,000. 

8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

a) cefnogi egwyddorion cymorth i farw; a 

b) cefnogi senedd San Steffan i gyflwyno deddf dosturiol o ran cymorth i farw yng Nghymru a Lloegr. 

 

 

</AI7>

<AI8>

4       Deddfwriaeth

</AI8>

<AI9>

4.1   Amserlen ar gyfer y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymu) (Cymru)

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymu) (Cymru) at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad er mwyn ystyried yr egwyddorion cyffredinol ac ymgynghori â’r Pwyllgor hwnnw ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer craffu, a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

Nododd y Pwyllgor Busnes y cynnig o fewn yr amserlen ar gyfer cyfnod byrrach na'r cyfnod safonol ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1, ac y bydd yn ystyried y cais yn unol â meini prawf penderfynu amserlen Bil Cyflym y cytunwyd arnynt yn flaenorol pan fydd yn dychwelyd i ystyried yr amserlen ymhellach.

 

</AI9>

<AI10>

4.2   Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cafodd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i:

 

 

</AI10>

<AI11>

5       Pwyllgorau

</AI11>

<AI12>

5.1   Llythyr gan Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19  ynghylch slot cyfarfod parhaol

Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at ystyried ymhellach y cais gan Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 iddo gael slot cyfarfod parhaol o fewn amserlen y pwyllgorau.

Ar ôl ystyried yr opsiynau er mwyn darparu ar gyfer slot cyfarfod parhaol gan osgoi gwrthdaro aelodaeth â phwyllgorau eraill, cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddarparu slot cyfarfod ar ddydd Llun ar gyfer Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i roi'r gallu i'r Pwyllgor gytuno ar ei amseroedd cychwyn ei hun ar gyfer cyfarfodydd er mwyn ei alluogi i gymryd tystiolaeth gan weinidogion a rhanddeiliaid eraill.

 

 

</AI12>

<AI13>

5.2   Llythyr gan Gadeiryddion y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn gofyn am slot ar gyfer dadl ar y cyd

Trafododd y Pwyllgor Busnes a chytunodd i’r cais i drefnu dadl ar y cyd ar adroddiadau yn ymwneud â chynigion ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy a Cyswllt Ffermio a gafodd eu llunio gan y ddau bwyllgor, gan nodi y bydd y Llywydd yn ystyried trefn ac amseriadau siaradwyr cyn y ddadl.

 

</AI13>

<AI14>

5.3   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn gofyn am slot ar gyfer dadl

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadleuon ar ddeisebau P-06-1474 Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas a P-06-1400 Adnoddau Teg a Digonol ar gyfer Practisau Cyffredinol yng Nghymru ac i'r ysgrifenyddiaeth drafod amserlennu'r dadleuon hynny gyda'r Pwyllgor Deisebau.

 

</AI14>

<AI15>

5.4   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch ymweliad y pwyllgor â Brwsel.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i roi caniatâd i aelodau'r pwyllgor gael eu hesgusodi o fusnes y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 20 Tachwedd, gan nodi y bydd yr Aelodau hefyd yn absennol o drafodion pwyllgorau ddydd Iau 21 Tachwedd.

 

</AI15>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>